Teacher Support Network

Counselling, information and research for all teachers

Nifer o athrawon yn disgyn am y chweched flwyddyn yn olynol

Printer-friendly version

Mae’r nifer o athrawon yng Nghymru wedi disgyn am y chweched flwyddyn yn olynol yn ôl yr ystadegau diweddaraf.

Ym mis Ionawr, dangosodd y cofnodion bod yna 25,745 athrawon amser llawn cyfatebol yn ysgolion y genedl, sy’n ostyngiad o 265 athro ar y flwyddyn flaenorol. Yn y cyfamser arhosodd y gyfradd o swyddi gweigion ar 0.3%, gyda 93 o swyddi ar gael mewn ysgolion meithrin, cynradd ac uwchradd Cymreig.

Ymateb Llywodraeth Cymru

Awgryma Llywodraeth Cymru fod yn rhai edrych ar y ffigurau hyn yng nghyd-destun y gostyngiad yn y nifer o ysgolion yng Nghymru a’r gostyngiad yn y nifer o ddisgyblion.

“Syrthiodd y niferoedd o ddisgyblion mewn ysgolion a ariannwyd gan yr awdurdod lleol gan 969 rhwng 2010 a 2011 – yn yr un cyfnod roedd yna 30 yn llai o ysgolion yr awdurdod lleol,” eglurodd Llefarydd ar ran y Llywodraeth.

Cyfraddau absenoldeb o ganlyniad i salwch wedi gostwng, ond yn uwch na Lloegr

Ar yr un pryd, datgelodd y ffigurau, er bod cyfraddau absenoldeb o ganlyniad i salwch ymhlith athrawon wedi gostwng peth o 64% yn 2010 i 59% y llynedd; ar gyfartaledd fe gymerodd athrawon Cymru mwy o ddyddiau o’r gwaith oherwydd salwch na’u cymheiriaid yn Lloegr. Ar gyfartaledd cymerwyd saith niwrnod o salwch gan Athrawon yng Nghymru yn 2011, tra collodd athrawon Lloegr gyfartaledd o 4.6 diwrnod, yn ôl Wales Online.

“Nid y nifer o athrawon yw’r unig fater o bwys fan hyn; mae angen i ni sicrhau bo gyda ni weithlu wedi’i hyfforddi’n dda sydd a chanddi fynediad at yr hyfforddiant a datblygiad proffesiynol sydd ei angen,” eglurodd llefarydd y Llywodraeth. “Cyfrifoldeb yr awdurdodau lleol a’r ysgolion fel cyflogwyr yw rheoli absenoldeb drwy salwch o ddydd i ddydd. Mae awdurdodau lleol wedi datblygu amrywiaeth o ddulliau i helpu darparu cefnogaeth ychwanegol yn lleol.”

Sylw gan NASUWT Cymru

Dywedodd Rex Phillips, trefnydd NASUWT Cymru, bod y cwymp yn nifer yr athrawon yn arwydd o’r diffyg buddsoddiad mewn addysg yng Nghymru.

“Byddai’n beth d ape bai gwleidyddion yn y Senedd yn ystyried faint yn fwy y gellid fod wedi cael ei gyflawni yng Nghymru pe bai ffenomen niferoedd yn disgyn yn cael ei weld fel cyfle i leihau maint dosbarth drwy gynnal lefelau staffio – yn hytrach na chael ei ddefnyddio’n unig i gyfiawnhau torri costau a cholli swyddi.”

Sylw gan NUT Wales

Dywedodd Owen Hathaway, Swyddog Polisi NUT Cymru: “Does dim amheuaeth bod dysgu yn parhau i fod yn swydd a chanddi lawer o straen a llwyth gwaith ynghlwm â hi. Mae hynny’n effeithio ar absenoldebau ac mae’n rhywbeth ddylai fod ar flaen meddwl Llywodraeth Cymru pan fyddan nhw’n gweithredu mentrau newydd.”

Sylw gan Teacher Support Cymru

Wrth siarad yn flaenorol ar faterion yn ymwneud ag absenoldeb drwy salwch mewn ysgolion, dywedodd Julian Stanley, Prif Weithredwr Teacher Support Cymru:

“Deallwn y gall absenoldeb un athro gael effaith anfesuradwy, nid yn unig ar y cydweithwyr sy’n gorfod ysgwyddo’r llwyth gwaith, ond hefyd ar y disgyblion sy’n cael eu dysgu. Credwn y bydd safonau addysg yn gwella pan fydd ysgolion a chynghorau yn gweithredu polisïau ystyrlon sy’n amddiffyn a gwella lles athrawon.

Mae’ n hanfodol bod y Llywodraeth, athrawon, rhieni ac yn wir pawb sy’n ymwneud ag addysg, yn gweithio gyda’i gilydd gyda Teacher Support Cymru i fynd i’r afael ag achosion sylfaenol straen ar athrawon, diffyg lles a materion perthnasol fel diffyg cadw athrawon.

Yn y cyfamser, gallwn helpu i rwystro’r angen am absenoldeb o ganlyniad i straen gydag ymyrraeth gefnogol gynnar. Mae Teacher Support Cymru yn cynnig Gwasanaethau Cymorth cyfrinachol am ddim 24 awr y dydd, saith dydd yr wythnos, lle gall athrawon yng Nghymru gael mynediad at yr wybodaeth gywir a chael cyngor i’w helpu i fynd i’r afael â straen cyn iddo arwain at absenoldeb hirdymor.”

News type: 
Hub: