Dau Feiciwr, Dau Feic, Un Byd
Mae dau athro o The City Academy, Hackney wedi cymryd blwyddyn allan o’r stafell dosbarth er mwyn beicio o amgylch y byd.
Bydd Mari Williams a James Worthington (neu Ms Williams a Mr Worthington fel y cant eu galw gan fyfyrwyr yn yr ysgol) yn ceisio teithio 4,200 o filltiroedd ar gefn beic ar draws yr UDA. Dechreuodd eu taith yn Richmond, Virginia. Maent yn gobeithio cyrraedd Portland, Oregon ar yr arfordir Gorllewinol erbyn canol mis Hydref. Hyd yma maen nhw wedi teithio 1,700 milltir ac ar hyn o bryd rhywle i’r gogledd o Kansas.
Y gobaith yw y bydd eu taith yn codi arian ar gyfer tair elusen - Building Schools for Africa, Bikes for Africa a Teacher Support Cymru.
Maent yn ysgrifennu blog am eu hanturiaethau ac yn gofyn i bawb fyddan nhw’n cwrdd ‘Pe baech yn gallu dysgu un peth i’r byd, beth fyddai hynny?’ Byddan nhw’n golygu’r ymatebion mewn i ffilm fer. Eu gobaith yw ymweld â rhai ysgolion ar y ffordd.
Ar ôl yr Unol Daleithiau byddant yn beicio yn Seland Newydd, Awstralia, Fietnam, Cambodia, India, Sri Lanka a Thwrci.
Dywedodd Mari, sy’n gyn Is-Bennaeth yn yr ysgol, “mae hwn yn gyfle unwaith mewn bywyd. Mae’r beicio yn her gorfforol a meddyliol”. Ychwanegodd James, sy’n athro mathemateg, “Dwi o hyd yn defnyddio fy meic yn y stafell ddosbarth er mwyn ennyn diddordeb myfyrwyr pan fydda i ‘n dysgu am gylchdroadau, buanedd neu siâp. Wrth wneud y daith, gobeithiaf y byddwn yn codi arian ar gyfer tair elusen addysgiadol ac efallai yn ysbrydoli rhai pobl ifainc eraill i fynd ar eu beiciau”.
Gallwch ddilyn eu blog ar: www.twoteacherstwobikesoneworld.blogspot.com
I wneud cyfraniad ewch at Teacher Support Cymru: www.justgiving.com/teams/twoteacherstwobikesoneworld