Hwb i Athrawon Newydd ymgymryd â rhaglen Meistri Mewn Ymarfer Addysg
Mae Athrawon Newydd Gymhwyso yng Nghymru yn cael eu hannog i ddilyn rhaglen Meistri newydd, fydd, yn ôl y Gweinidog Addysg, yn gyrru safonau i fyny mewn ysgolion.
Gellir cymryd y cwrs tair blynedd, a gaiff ei alw’n gwrs Meistri Mewn Ymarfer Addysg (MEP), o amgylch sefydlu a chynefino Athrawon sydd Newydd Gymhwyso a datblygiad proffesiynol cynnar, bydd yn golygu tynnu o’u profiad ymarferol yn y ‘stafell ddosbarth, a byddant hefyd yn derbyn cefnogaeth ychwanegol o’u mentoriaid.
Y rhaglen, yw’r diweddaraf mewn cyfres o weithredoedd gan Lywodraeth Cymru i wella ar yr hyn maen nhw’n ei weld fel diffyg mewn safonau sylfaenol mewn ysgolion. Bydd yn canolbwyntio ar lythrennedd, rhifedd ac ymddygiad.
Caiff rhaglen y Meistri ei lansio ochr yn ochr â gwefan newydd, fydd yn cefnogi athrawon newydd drwy eu hyfforddiant addysg bellach. Bydd y wefan yn cynnig newyddion, adnoddau ac astudiaethau achos,er mwyn helpu athrawon yn eu datblygiad.
Caiff rhaglen y Meistri ei achredu, ei gyflenwi a’i wobrwyo gan gynghrair o brifysgolion Caerdydd, Bangor ac Aberystwyth ynghyd â’r Sefydliad Addysg ym Mhrifysgol Llundain.
Mae arweinwyr cwrs yn cynnig manylion ar y cynnwys
Mae’r rhaglen Meistri yn cael ei lansio yn dilyn rhai asesiadau siomedig o Addysg Gymreig, fel yr adroddir gan y BBC llithrodd Cymru 18 mis yn ôl i lawr tabl gynghrair asesiadau byd-eang ar gyfer plant 15 oed, a lleolwyd Cymru yn is nac unrhyw un o’r 4 gwlad yn y DG yn y Rhaglen Datblygu Myfyrwyr Rhyngwladol (PISA).
Dywedodd yr Athro David Reynolds, sydd yn ymgynghorydd i’r llywodraeth ac a helpodd lunio’r Rhaglen Meistri, bydd y rhaglen newydd yn ein helpu i godi safonau yng Nghymru ac ymhen amser, bydd pob athro newydd gymhwyso yn ymgymryd â’r rhaglen Meistri mewn Ymarfer Addysg. Dywedodd, “Bydd yn sicrhau fod gan Gymru rhai o nodweddion gwledydd llwyddiannus eraill, fel y Ffindir, lle mae gan bob athro radd meistr.” Ystyriodd bod angen cymryd golwg newydd ar bolisi addysg, er mwyn rhoi’r deilliannau gorau posib i fyfyrwyr ac athrawon. Ychwanegodd, “teimlwyd byddai’n beth da i geisio efelychu'r hyn roedd ein cystadleuwyr yn ei wneud. Dydyn ni heb ddatblygu’r gallu yn y proffesiwn dysgu yng Nghymru fel mae sawl gwlad arall wedi ei wneud. Mae yma agwedd newydd nawr ac maen nhw o’r farn y dylwn helpu’r proffesiwn nawr ac adeiladu rhywbeth ar gefn yr hyn a wyddom eisoes, yn hytrach na’i adael yn llonydd i’w helpu ei hun. Mae’r Rhaglen Meistri yn un cyfeillgar i athrawon a gallech chi ddim cael gwell na’r hyn sy’n cael ei lwytho.”
Caiff y Rhaglen Meistri ym Mhrifysgol Caerdydd ei arwain gan, dirprwy Gyfarwyddwr Ysgol Gwyddorau Cymdeithasol Caerdydd, Yr Athro Amanda Coffey. Wrth siarad d am y cwrs a’i bwrpas, dywedodd; "Bydd y Rhaglen Meistri yn rhoi cyfle unigryw i athrawon yng Nghymru sydd newydd gymhwyso i gael mynediad at adnoddau o ansawdd uchel a mentora er mwyn gwella eu harferion dysgu yn y dosbarth. Bydd yr Athrawon newydd gymhwyso a’u hysgolion yn elwa o raglen gyfoethog a chefnogol, wedi ei ddiweddaru gyda’r dystiolaeth ymchwil ddiweddaraf.
Mudiadau athrawon yn parhau i fod yn wyliadwrus ond optimistaidd
Bu’r ymateb cyffredinol o’r mudiadau athrawon yn un cadarnhaol oherwydd y gefnogaeth ychwanegol gall y rhaglen meistri ei roi i athrawon, ond mae pryder am yr effaith ar les athrawon, gall llwyth gwaith mwy o bosib ei gael. Wrth siarad ar ran Cyngor Dysgu Cyffredinol Cymru, dywedodd Hayden Llewellyn, Dirprwy Brif Weithredwr, "Mae yna agenda uchelgeisiol yma ar gyfer gwella ein hysgolion, ac mae’n rhaid i ni fuddsoddi’n llawn ym medrau’r athrawon unigol er mwyn cyflawni’r dyhead hwnnw." Ychwanegodd Rex Phillips, Trefnydd Cymru ar gyfer Cymdeithas Genedlaethol yr Ysgolfeistri ac Undeb yr Athrawesau (NASUWT), "Rydym yn cefnogi hwn mewn egwyddor ond mae ’na nifer o gwestiynau yn parhau i fod heb eu hateb, fel pa fath o gefnogaeth sydd ar gael i athrawon sydd newydd gymhwyso."
Gwybodaeth Bellach
Mae gan athrawon sydd newydd gymhwyso o’r 8fed o Hydref hyd at Dachwedd 30 i wneud cais am y rhaglen Meistri mewn Ymarfer Addysg. Gellir gwneud hyn yn electronig drwy gyfrwng gwefan Prifysgol Caerdydd. Ar hyn o bryd maen nhw’n chwilio am fentoriaid ar gyfer y rhaglen; gellir dod o hyd i fwy o wybodaeth yma