Teacher Support Network

Counselling, information and research for all teachers

Cynnydd yn y nifer o Benaethiaid uwchradd benywaidd yng Nghymru

Printer-friendly version

Mae’r nifer o benaethiaid sy’n fenywod mewn ysgolion uwchradd ar draws Cymru wedi dyblu yn ystod dyr with mlyned diwethaf, gyda bron i un mewn tair o fenywod yn benaethiaid erbyn hyn.

Mae’r ffigurau, a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan Gyngor Athrawon Cyffredinol Cymru (GTCW), yn dangos bod y nifer o benaethiaid sy’n fenywod mewn ysgolion uwchradd yng Nghymru wedi cynyddu i 31.7 y cant yn 2012, sydd i fyny o 16.5 y cant yn 2004.

Yn ôl Wales Online, yn ychwanegol i’r cynnydd, mae’r nifer o fenywod sy’n dilyn y Cymhwyster Proffesiynol Cenedlaethol mewn body n Bennaeth (NPQH) yn awgrymu bydd y tuedd yn debygol o gynyddu.

"Mae hwn yn newyddion da iawn sy’n dangos bod buddsoddi yn y math iawn o ddatblygu proffesiynol yn rhoi’r sgiliau i fenywod i gyflawni eu llawn botensial," dywedodd Katy Chamberlain, Prif Weithredwr Chwarae Teg, sef sefydliad sy’n hyrwyddo datblygiad economaidd menywod yng Nghymru. "Rwy’n gobeithio byd y tueddiad tuag at well cydbwysedd  o ran rhyw mewn arweinyddiaeth ysgolion uwchradd yn cyflymu. Mae’n rhoi modelau enghreifftiol i athrawon benywaidd eraill a hefyd yn annog myfyrwyr sy’n fenywod i anelu am swyddi uwch ym mha bynnag yrfa byddant yn eu dewis."

Gwelir y cynnydd fel tueddiad positif tuag at gydraddoldeb rhywiol, gan fod swyddi penaethiaid wedi cael eu llenwi ‘n draddodiadol gan ddynion, er gwaetha’r ffaith bod dwy ran o dair o’r gweithlu mewn ysgolion uwchradd yn fenywod.

Croesawyd y cynnydd mewn penaethiaid uwchradd sy’n fenywod, hefyd, gan Sefydliad Arweinwyr Uwchradd a Cholegau (ASCL), sy’n priodoli hyn i newidiadau mewn arweinyddiaeth ganol. Dywedodd Gareth Jones, Ysgrifennydd Cyffredinol ASCL Cymru: "Yn ystod y ddegawd ddiwethaf, mae’r cydbwysedd rhyw mewn swyddi arweinyddiaeth ganol ysgolion uwchradd wedi newid yn sylweddol ac felly hefyd roedd disgwyl y cydbwysedd rhyw fwy cyfiawn mewn arweinyddiaeth uwch, fel y datgelwyd gan ddata’r GTCW. Yn yr 1990au cynnar, roed bron pob swydd arweinyddiaeth ganol wedi ei ddal gan ddynion ond newidodd hyn yn sylweddol ac mae unrhyw rwystrau oedd yn bodoli yn ystod y cyfnod hwnnw wedi diflannu."

Ychwanegodd Dr Philip Dixon, Ysgrifennydd Cyffredinol Cymru ar gyfer Cymdeithas yr Athrawon a’r Darlithwyr (ATL): "Mae gwell ymwybyddiaeth o’r angen am gydbwysedd rhyw a malurio unrhyw fath o ‘rwydwaith hen fechgyn’ yn ymddangos fel pe bai’n cael effaith".

Ar hyn o bryd mae 70 pennaeth uwchradd allan o gyfanswm o 222 yng Nghymru yn fenywod.

Hub: