Teacher Support Network

Counselling, information and research for all teachers

Athrawon yn dymuno cael mwy o gefnogaeth gyda’u bywydau

Printer-friendly version

Mae’r Rhwydwaith Cymorth i Athrawon wedi datgelu bod athrawon yn dymuno cael yr un faint o gefnogaeth gyda’u bywydau bob dydd ag y gwnânt gyda’u gyrfaoedd proffesiynol.

Gall natur y galwadau mae’r elusen yn derbyn o athrawon amrywio o faterion personol fel arian, iechyd a lles neu berthnasau teuluol, yn ogystal â phynciau sy’n gysylltiedig ag addysg fel ymddygiad disgyblion.

Rhwng 2010 a 2011, derbyniodd y grŵp elusennol 45,633 o alwadau neu e-byst o fwy na 19,000 o ddefnyddwyr oedd yn gyn-staff, staff cyfredol, pobl oedd wedi ymddeol a’u teuluoedd.

Arian oedd un o’r testunau a drafodwyd fwyaf, gyda 7,334 o achosion mewn perthynas â materion ariannol personol yn ystod y cyfnod hwnnw. Roedd Iechyd a Lles yn gyfrifol am 16,602 yn ystod y cyfnod yma o ddwy flynedd, gyda 4,589 o’r rhai hynny’n gysylltiedig yn benodol â phryder. Cafwyd 3,002  achosion pellach yn ymwneud â phroblemau gyda pherthnasau teuluol, a chafwyd 2,180 yn ymwneud â phobl yn colli cwsg oherwydd eu gofidion.

Mae’r digwyddiadau hyn yn fwy tebygol o ddigwydd yn ystod tri mis cyntaf y flwyddyn academaidd nac yn ystod unrhyw dymor arall. Yn ôl y ffigurau, mis Tachwedd yw’r mis pan fydd y nifer mwyaf o athrawon yn gofyn am ein cefnogaeth, er bod ein tîm cefnogi yn ateb llif o alwadau ac e-byst drwy gydol y flwyddyn, a bod y cyfansymiau blynyddol yn codi.

“Mae staff o dan bwysau personol a phroffesiynol digynsail,” meddai Julian Stanley, Prif Weithredwr Grŵp y Rhwydwaith Cymorth i Athrawon. “Gwyddom eu bod yn wynebu materion fel llwyth gwaith, newid strwythurol ac ofn diswyddo, ond maen nhw hefyd yn wynebu’r un materion sy’n rhaid i ni eu gwneud hefyd: arian, iechyd a pherthnasau.”

“Y gwahaniaeth yw y gall diwrnod gwael yn y gwaith o ganlyniad i bwysau allanol effeithio ar dri neu bedwar o fy nghydweithwyr ar y mwyaf. Os yw athro’n cael diwrnod gwael am yr un rhesymau, fe all effeithio ar gannoedd o ddisgyblion neu fyfyrwyr a’u dyfodol.”

O ganlyniad, rydym yn lansio ystod newydd o wasanaethau i helpu athrawon gyda’u bywydau personol. Mae ein gwasanaethau nawr yn cynnwys gwasanaethau rheoli arian ynghyd â chynghori ar ddyled, gwirio budd-daliadau lles a dyfais cyllido ar-lein, yn ogystal â Therapi Ymddygiad Gwybyddol Cyfrifiadurol (CCBT) am y tro cyntaf, yn ogystal â gwell gwasanaethau hyfforddi, cynghori a gwybodaeth.

“Rydym hefyd wedi ystyried ein bod darparu gwasanaeth cymorth a chefnogaeth ar gyfer yr oes ddigidol gall pobl broffesiynol ym maes addysg ei ddefnyddio pan a  lle bynnag fyddan nhw ei angen,” ychwanega Julian Stanley.

Erbyn hyn gall defnyddwyr anfon neges testun er mwyn cael cymorth, sgwrsio gyda chynghorydd yn fyw ar-lein neu gael mynediad at ystod o ffeithlenni ar ystod eang o faterion gan gynnwys maethiad i bobol dros 65, bod yn rhieni a rheoli straen.

News type: 
Hub: