Cymru’n cyfri’r gost o ddyddiau salwch o ganlyniad i stres


Mae cynghorau yng Nghymru wedi bod yn cyfri'r gost o afiechyd wedi'i achosi gan stres ymhlith ei staff ac athrawon, gydag un sir yn datgelu ei fod wedi gwario dros filiwn o bunnoedd i ymdopi â dyddiau salwch.

Cyfrifodd Gyngor Conwy ei fod wedi gwario £1,015,649 ar absenoldebau, yn ogystal â'r gost o gyflogi gweithwyr dros dro a thaliadau goramser er mwyn llenwi 'r bwlch a grëwyd gan staff absennol, yn ôl y Daily Post.

Wrth wneud sylw ar y ffigurau yma, dywedodd Julian Stanley, Prif Weithredwr Teacher Support Cymru:

"Yn anffodus, chawson ni ddim ein synnu gan y ffigurau absenoldeb yma. Mae dysgu yn alwedigaeth wobrwyol, ond mae'n aml yn heriol a gall hyd yn oed yr athrawon gorau ei chael hi'n anodd gyda'r stres a'r pwysau fyddan nhw'n ei wynebu. Mae'r sefyllfa yng Nghymru yn adlewyrchu'r DU ar y cyfan, lle mae stres yn brif achos afiechyd mewn cyswllt â gwaith yn y sector addysg."

Awgryma'r adroddiad bod staff yng Nghonwy wedi cymryd cyfartaledd o 11.09 o ddyddiau i ffwrdd o'r gwaith llynedd o ganlyniad i stres, a bod hyn i fyny o 10.7 diwrnod yn 2008-09.

"Mae'n achos o bryder bod cost ac effaith yr absenoldebau hyn hyd yn oed yn fwy nac mae'r gwerth ariannol yn ei awgrymu. Gall absenoldeb un athro gael effaith anfesuradwy nid yn unig ar y cydweithwyr fydd yn gorfod ysgwyddo'r llwyth gwaith, ond hefyd ar y disgyblion sydd yn cael eu haddysgu. Mae'n anochel byd safonau addysg yn disgyn", eglurodd Julian Stanley. "Bydd absenoldebau drwy salwch yn lleihau- ac felly safonau addysg ar gyfer disgyblion yn gwella- pan fydd ysgolion a chynghorau yn gweithredu polisïau ystyrlon all amddiffyn a gwella lles athrawon."

Cred Teacher Support Cymru gellir atal absenoldeb drwy stres gydag ymyrraeth gefnogol gynnar. Mae Teacher Support Cymru yn cynnig gwasanaethau cynghori a Llinellau Cymorth 24 awr y dydd a 7 dydd yr wythnos yn gyfrinachol a dwyieithog lle gall athrawon yng Nghymru gael mynediad at yr wybodaeth a chyngor cywir i'w helpu i fynd i'r afael â stres cyn iddo arwain at absenoldeb hirdymor.

Os ydych chi'n brwydro stres ac yn dymuno cael sgwrs gyfrinachol, rhowch alwad i'n Llinell Gymorth ar 08000 855 088.





 

SITE TOOLS