Rhaid i ysgolion fynd i'r afael â phroblem bwlio athrawon ar y we


Patrick Nash, Prif Weithredwr Teacher Support Network sy'n ysgrifennu:

"Mae Teacher Support Cymru yn cael llawer o alwadau bob blwyddyn gan athrawon sy'n profi bwlio neu aflonyddu yn y gwaith. Mae'r bwlio yn digwydd am nifer o resymau, gan gynnwys hiliaeth, homoffobia, neu oherwydd pryd a gwedd athro, a gall sawl grŵp fod yn gyfrifol amdano, gan gynnwys disgyblion, cydweithwyr neu rieni.

"Un math o fwlio sydd ar gynnydd yn ôl pob golwg yw bwlio ar y we. Datgelodd arolwg diweddar gan Teacher Support Cymru a Chymdeithas yr Athrawon a'r Darlithwyr fod 37 y cant o'r ymatebwyr yng Nghymru wedi profi bwlio ac aflonyddu drwy ffôn symudol, ebost neu'r rhyngrwyd.

"Rydym yn galw ar yr Adran Addysg a Sgiliau a Llywodraeth Cynulliad Cymru i sicrhau bod polisïau gwrth-fwlio ysgolion yn cynnwys bwlio ar y we a bod ysgolion yn gweithredu'r polisïau hyn yn effeithiol."

Dywedodd Rhiann, athrawes ysgol uwchradd o Abertawe, wrth Teacher Support Line Cymru:

"Rydw i wedi cael rhai anawsterau wrth reoli ymddygiad grwpiau penodol o blant yn rhai o fy nosbarthiadau, ac un plentyn yn benodol sydd yn rhegi ac yn ateb yn ôl bob amser.

"Rydw i wedi llwyddo i oresgyn hyn bob amser, a pharhau â'r gwersi, ond yn ddiweddar rydw i wedi dechrau cael negeseuon testun anhysbys sy'n sarhaus ac yn brifo. Rydw i'n siŵr mai'r disgybl yma sy'n eu hanfon nhw ond does gen i ddim tystiolaeth. Wn i ddim sut i fynd i'r afael â'r broblem."

Nid yw sefyllfa Rhiann yn un anghyffredin. Datgelodd yr arolwg fod 29 y cant o ymatebwyr Cymru wedi cael neges destun a oedd wedi eu cynhyrfu, a bod 43 y cant ohonynt wedi eu hanfon gan rywun di-enw.

Gweithiodd y cynghorydd yn Teacher Support Line Cymru gyda Rhiann i'w helpu i ganfod ffyrdd o ddatrys y sefyllfa, gan gynnwys cadw cofnod o'r negeseuon yr oedd wedi eu cael, a sôn wrth ei rheolwr llinell hi a'i chynrychiolydd undeb am y sefyllfa. Yn ogystal, bu'r cynghorydd o gymorth o ran datblygu strategaethau i oresgyn y problemau yr oedd yn eu profi o ran rheoli ymddygiad, a gweithio ar wella ei hyder yn y gwaith.

Prif bryder Teacher Support Cymru o ganlyniad i'r arolwg yw bod y rhan wyaf o ymatebwyr a oedd wedi profi bwlio ar y we yn dweud nad yw eu hysgolion wedi gweithredu codau ymarfer i fynd i'r afael â'r broblem yn effeithiol.

Yn ogystal â galw ar y Llywodraeth i weithredu o ran polisïau gwrth-fwlio, rydym hefyd yn gofyn i ddarparwyr gwasanaethau rhyngrwyd a ffonau symudol i ddiogelu athrawon yn well drwy greu gweithdrefnau cwyno hawdd eu defnyddio i gofrestru pryderon. Dim ond drwy ymateb cadarn a chyson o'r fath y gellir cael gwared ar y broblem gynyddol hon.

Gall unrhyw athrawon y mae bwlio ar y we yn effeithio arnynt gysylltu â Teacher Support Cymru drwy ffonio 08000 855 088 neu drwy fynd i www.teachersupportcymru.info i gael cyngor a chymorth cyfrinachol yn rhad am ddim gan ein cynghorwyr a'n hyfforddwyr. Mae'r InfoCentre ar gael drwy'r wefan ac mae'n cynnwys taflenni ffeithiau ynghylch mynd i'r afael â bwlio ar y we.





 

SITE TOOLS