Facebook neilltuaethBy Sandra Taylor
Roedd hi'n brofiad arbennig i allu dod a threulio'r dydd yn Eisteddfod yr Urdd, yn Llanerchaeron, yr wythnos ddiwethaf. Roedd yr haul yn gwenu ac roedd yn bleser i gael bod yno a phrofi'r awyrgylch hynod o gadarnhaol. Fel dysgwr Cymraeg sydd newydd ddechrau, roeddwn wedi fy mhlesio fod pobl mor amyneddgar â fi, ac fe sylweddolais y gallwn ddeall mwy o Gymraeg na fedrwn i ei siarad, felly rwy'n symud ymlaen. Mwynheais wylio Dawnsio Gwerin cyn troi fy sylw at y dawnsio disgo, roedd hi fel rhywbeth allan o Britain's Got Talent yn y Pafiliwn! Roedd ynni'r bobl ifanc oedd yn cymryd rhan yn wych ac roedd hi'n amlwg eu bod wedi ymarfer a bod hynny wedi bo o fu mawr iddyn nhw! Fe ges i'r cyfle i sgwrsio â rhai athrawon oed yn ymweld â stondin CyngACC a thrafod llawer o faterion eu bod nhw a llawer o athrawon o amgylch y wlad yn wynebu o fewn eu hysgolion. Un mater ddaeth i fyny dro ar ôl tro ac sydd yn achosi ystod o broblemau ar gyfer disgyblion acathrawon yw preifatrwydd Facebook. Roeddwn yn gallu sôn wrthyn nhw am y ffeithlenni sydd gyda ni ar wefan Teacher Support Cymru www.teachersupport.info ynglŷn â defnyddio Facebook. Gall y ffeithlen canlynol fod o ddefnydd i chi: Facebook-Privacy Settings |
Rhowch GyfraniadMae ein gwasanaethau cyfrinachol sydd am ddim ar gyfer athrawon yn dibynu ar roddion gan bobl fel chi. Cyfrannwch NawrTanysgrifiwch am ddim i gael ein e-gylchlythyr sy’n llawn o newyddion addysg, gwybodaeth a chymorth. DECHRAU YMA! | |
|
| ||
pwy ydym ni
Mae Teacher Support Cymru yn darparu cefnogaeth broffesiynol a phersonol i athrawon yng Nghymru, datblygir ein gwasanaethau mewn ymateb i sefyllfa addysgol a gwleidyddol gyfnewidiol er mwyn cwrdd ag anghenion ein hathrawon mor effeithiol â phosibl
support lines
Rydym yn cynnig gwybodaeth, cymorth a chyngor i athrawon a staff:
Cymru - 08000 855 088
England - 08000 562 561
Scotland - 0800 564 2270
mynnwch gymorth ar-lein
Mae ein tîm ar-lein ar gael ar gyfer cymorth, cyfrinachol am ddim.
Mynnwch gymorth nawrsearch our InfoCentre
Mae dros 1,400 o ffeithlenni ar gyfer athrawon yn ein Gwybodfan. Dewch o hyd i'r atebion drwy chwilio yma.