Teacher Support Cymru yn datblygu cysylltiadau gyda chynghori wedi’i seilio ar ysgol


Yn ddiweddar cafwyd cyfarfod rhwng y gwasanaeth Cynghori seiliedig ar Ysgol a Teacher Support Cymru (TSC) er mwyn datblygu cysylltiadau rhwng y ddau sefydliad.

"Mae'r cydberthynas rhwng y gwasanaeth Cynghori ar gyfer disgyblion a'r gwasanaethau mae Teacher Support Cymru yn eu darparu ar gyfer athrawon yn glir iawn" meddai Sandra Taylor, Rheolwr Datblygu TSC.

Bydd cynghorwyr ar gael ar gyfer holl ysgolion Uwchradd Cymru erbyn mis Medi 2010 a chynhaliwyd projectau pilot tebyg mewn ysgolion cynradd ar draws pedwar Awdurdod Lleol gyda disgyblion blwyddyn 6. Fodd bynnag, er bod iechyd a lles disgyblion yn cael ei gydnabod, mae'r cwestiwn o gymorth a chefnogaeth i athrawon yn parhau. Byd athrawon yn aml yn sgwrsio gyda'r cynghorwyr yma ac yn gofyn ble allan nhw gael mynediad at gymorth a chefnogaeth i'w hunain.

Y gobaith yw bydd gwell cysylltiadau yn helpu cynghorwyr ysgol gyfeirio athrawon at TSC, lle y gallant gael mynediad at ein gwasanaethau.

Os hoffech chi sgwrsio gyda rhywun er mwyn cael cymorth neu gyngor, rhowch alwad i ni ar 0800 085 5088 neu danfonwch e-bost at ymgynghorydd yma.





 

SITE TOOLS