Athrawon yng Nghymru, beth yw eich marathon?

Helpwch athrawon i fynd i’r afael gyda’u heriau eu hunain drwy fyn i’r afael ag un eich hunan

Gan Sandra Taylor

running-torsos-cymru.jpg
Beth yw eich Marathon? Dywedwch wrthym ar Twitter @teachersupport

I rai athrawon, gall pob gwers fod yn her, ond yn wahanol i’r rhan fwyaf o redwyr chân nhw dim medal na chymeradwyaeth pan fydan nhw’n croesi’r llinell derfyn. Yn lle hynny byddan nhw’n parhau i ddioddef bwlio, stres, gorweithio, dyled neu hyd yn oed yn waeth.

Os ydych yn cymryd rhan yn y Marathon Cymreig neu hanner marathon Caerdydd yn 2011 gallwch helpu i gefnogi’r athrawon yma.

Drwy wneud Teacher Support Cymru yn elusen a enwebir gennych chi, gallwch ein helpu i roi grant argyfwng i athro neu athrawes mewn angen, talu am ein Llinell Gymorth i gael ei staffio gan ymgynghorydd hyfforddedig neu helpu athro sydd wedi ymddeol i aros yn annibynnol yn ei gartref.

Yn ddychwelyd byddwn yn rhoi llawer o help a chyngor ar sut i wneud y gorau o’r profiad hwn.

Byddwn yn eich helpu i baratoi
Ynghyd â chynlluniau hyfforddiant a chanllawiau maethiad, byddwn yn danfon templed datganiad i’r wasg i chi ddanfon allan i’ch papurau lleol, posteri i’ch helpu i hyrwyddo unrhyw ddigwyddiadau codi arian y byddwch eisiau eu rhedeg, grŵp facebook lle gallwch sgwrsio â ni a’r holl redwyr eraill fydd yn cymryd rhan ac wrth gwrs fest rhedeg am y diwrnod.

Dechreuwch

Mae gyda ni lefydd wedi eu cadw yn:

  • Marathon Llundain Virgin - Ebrill 17, 2011
  • Hanner Marathon Silverstone Adidas - Mawrth 6, 2011
  • Marathon Caeredin - Mai 22, 2011 (Fodd bynnag, os yw marathon cyfan yn ymddangos fel cam rhy bell, pam na ymunwch chi â thri o’ch ffrindiau a rhedeg Ras Gyfnewid yr Hagis Blewog? Mae’r ras yn rhedeg yr un cwrs â’r marathon ar yr un dydd - ond yn gyfnewid! Byd pob rhedwr yn rhedeg tua 5.8 milltir.)




 

SITE TOOLS