Ymdopi â pherthynas anodd


Cysylltir addysgu â sawl her unigryw: teimlo eich bod dan feicrosgôp o’r foment rydych yn croesi’r giât ysgol; aflonyddwch yn yr ystafell ddosbarth; lleihad yn y cyfathrebu rhwng eich cydweithwyr a’ch rheolwyr fel canlyniad o gysylltiad cyfyngedig; a pherthnasau gweithio anodd i rhai.

Llynnedd, darganfyddodd Teacher Support Cymru fod 12 y cant o alwadau i’r llinnell gymorth ynglŷn â pherthnasau gweithio anodd.

Er ei fod yn fater cyffredin i nifer o athrawon, bydd cymryd camau positif i ddatrys y perthnasau gweithio anodd yn fuddiol i’ch effeithlonrwydd a’ch iawnder personol chi yn y pen draw, yn ogystal â’r amgylchedd yn y gweithle’n gyffredinol.

Ffoniodd Mary, 38, o Aberystwyth Teacher Support Line Cymru ynglŷn â pherthynas gweithio anodd. Dywedodd hithau:

 

"Dwi’n dod ymlaen yn arbennig gyda’r holl athrawon ond un. Mae fy mherthynas gyda hwn bron yn annioddefol ac a dweud y gwir dwi wedi drysu pam mae e’n fy nhrin i yn y fath modd.

"Rydym yn anghytuno ynglŷn â phopeth. Dwi bob amser yn teimlo ei fod yn fy mychanu, dyw e byth yn gwarando i’r hyn sydd gen i i’w ddweud, a dwi’n dechrau colli fy hunan-hyder pan dwi o’i amgylch.

"Dwi wedi siarad gyda ffrind agos yn yr ysgol, a dyw hi ddim yn gallu deall pam mae hyn y digwydd. Mae hi’n teimlo’i fod yn foi iawn ac yn gyfeillgar. Ife fy mai i ydy hyn?"

 

Cynhellodd Sue, cynghorydd Teacher Support Cymru, Mary ei bod yn ceisio asesu’r sefyllfa o safbwynt niwtral, a phan mae’n teimlo’n barod amdani, yn eistedd i lawr gyda’r cydweithiwr hwn a thrafod gyda fe sut y mae’n teimlo, gan fynegi’i phwyntiau’n glir ac yn hyderus.

Er mwyn paratoi, awgrymodd Sue fod Mary yn ysgrifennu rhestr fer o bynciau yr hoffer eu trafod i sicrhau ei bod yn mynegi’i phwynt, gan gofio rhoi’r cydweithiwr y cyfle i ddweud ei ddweud, heb ymyrriad.

Cyngor arall ynglŷn â delio â pherthnasau anodd yn y gweithle ydy dysgu i adnabod a rheoli eich mecanweithiau amddiffyniad. Ceisiwch beidio ymateb yn syth mewn sefyllfaoedd dirdynedig, ond ymatebwch ar adeg fwy niwtral pan rydych yn gallu mynegi barn mewn modd llai cyffrous.

Er fod hyn efallai yn ymddangos mai chi’n unig sydd yn ymdrechu, cofiwch mai person ddewr iawn sydd yn cymryd y cam cyntaf mewn sefyllfoaedd o’r natur yma.

Os rydych wedi hen geisio i ddatrys y sefyllfa ond yn teimlo fod dim byd wedi newid, efallai byddwch yn penderfynu i gymryd camau mwy ffurfiol. Cadwch gofnod ysgrifenedig o bob ymgais i ddelio gyda’r sefyllfa, ac yna trefnwch gyfarfod gyda’ch rheolwr/wraig i esbonio sut rydych yn teimlo.

Mae gan nifer o ysgolion polisi gwrth-aflonyddwch, sy’n darparu canllawiau clir ar gyfer sefyllfa gwrthdaro mwy difrifol.

Sicrhewch eich bod hefyd yn cysylltu gyda’ch undeb llafur am gymorth.

Cynnigir gwefan Teacher Support Cymru www.teachersupportcymru.info ystod o daflenni ffeithiau sy’n darparu cyngor ynglŷn â’r mater hwn, yn ogystal â gwybodaeth ynglŷn â chodi hyder a gwella cyfathrebiad.

Gallwch hefyd ebostio hyfforddwr ar Teacher Support Online, hefyd ar gael trwy www.teachersupportcymru.info.

Os hoffwch siarad â rhywun, ffoniwch Teacher Support Line Cymru 08000 855 088 am ddim.





 

SITE TOOLS