Wella lles athrawon


Wedi cael ei gwrthod gan rai fel delfryd ‘ffluwchrog’ yn ymwneud â the llysieuol a thyluno pen India, mae’r sector addysg ar y cyfan wedi dechrau cydnabod y cyswllt rhwng staff sydd yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, yn ystwyth ac yn iachus a’r profiad dysgu positif y mae pobl ifanc yn ei dderbyn, ac wedi dechrau gweithredu ar hyn.

Yn naturiol, fel elusen sydd yn ymrwymedig i les ac iechyd athrawon, dydyn ni ddim yn wahanol. Ers mis Ionawr y flwyddyn yma, mae Teacher Support Cymru wedi bod yn cynnal ymchwil i mewn i effeithiolrwydd ac ehangder y gwasanaethau cymorth sydd ar gael i athrawon a’u heffaith ar les y proffesiwn.

Am y tro cyntaf yn hanes Cymru mae’r ymchwil yma yn cael ei chynnal ymhlith athrawon.

Mae’r astudiaeth yn canolbwyntio ar bedair prif adran; adnabod natur ac ymestyniad gwasanaethau cefnogi a ddarperir gan yr Awdurdodau Lleol; lefelau o ymwybyddiaeth a defnydd o’r gwasanaethau gan athrawon; profiad gwaith cyfredol athrawon; a sut mae lles ac iechyd yn effeithio athrawon.

Bydd ffactorau fel iechyd cyffredinol ac amser ymlacio, arwyddion straen a’r straen sydd yn gysylltiedig â dysgu yn cael eu harchwilio. Fe fydd yr astudiaeth hefyd yn archwilio i ba raddau mae athrawon yn gweld eu lles emosiynol a’u iechyd a’i effaith ar gydweithwyr, disgyblion, teulu, ei hun ac eraill.

Does gennyf ddim amheuaeth fydd y canlyniadau yn profi’n ddiddorol iawn i bob un sy’n gweithio yn y sector addysg. Fe fydd yr adroddiad terfynol yn cael ei gyhoeddi yn hwyrach yn y flwyddyn.

Hyd yn hyn mae canlyniadau'r peilot yn dangos fod lefelau straen athrawon yn cynyddu o leiaf unwaith yr wythnos oherwydd materion fel baich gwaith, amhariaeth disgyblion, a dyletswyddau gweinyddiaeth. Dwi’n sicr na fydd y canlyniadau yma yn sioc i athrawon yng Nghymru.

Mae un o’n cwnselwyr newydd siarad gyda benyw o Sir Benfro. Adroddodd y cwnselwr stori Sue, rhiant sengl yn 37 mlwydd oed gyda 10 blwyddyn o brofiad fel athrawes.

Wnaeth Sue ein galw gan ei bod hi’n teimlo wedi ei orestyn gan ddymuniadau dosbarth mawr, ysgrifennu adroddiadau, marcio papurau a delio hefo ddisgyblion sy’n amharu ar ei gwersi hi. Roedd hi ar frys i deimlo bod pethau yn fwy esmwyth a rheoli ei fywyd unwaith eto.

Wnaeth Sue gweithio gyda’r cwnselwr i gydnabod y cymhlethdod o emosiynau yr oedd yn teimlo ynglŷn â’i phlentyn, baich gwaith a’i phroblemau ariannol yn dilyn ei hysgariad gyda’i gŵr.

Ar ôl cyfres o sesiynau, roedd Sue yn gallu adnabod amryw o opsiynau a oedd ganddi hi, trefnodd hi gyfarfod gyda’i Phennaeth a chydweithwyr i weld a oedd rhyw ffordd i leihau ei baich gwaith.

Hefyd siaradodd hi gydag un o gwnselwyr ariannol Teacher Support Cymru ynglŷn â’i phroblemau ariannol yr oedd yn dioddef ar ôl yr ysgariad, sicrhaodd y cwnselwr bod Sue yn derbyn pob cymorth ariannol a oedd ar gael iddi hi.

Dim ond un sefyllfa yw hwn sy’n darlunio’r pwysau amryfal mae rhaid i athrawon yng Nghymru ymdopi gyda. Mae Teacher Support Cymru yn ymrwymedig i sicrhau does dim angen i athrawon dioddef ar eu pen eu hunain. Rydym yn gobeithio fe fydd yr ymchwil ar iechyd a lles personol athrawon, yn helpu ni i ddatblygu'r cymorth yma yn y dyfodol. Os hoffech siarad â rhywun yn rhad ac am ddim ac yn gyfrinachol, galwch Teacher Support Line Cymru ar 08000 855 088 neu ewch i www.teachersupportcymru.info am ragor o wybodaeth.





 

SITE TOOLS