Targedau a safonau afrealistig yn peri straen ar athrawonYn ôl arolwg newydd, dylai athrawon sydd yn dymuno bod yn hapusach beidio ceisio â phlesio pawb a dylai fod ganddyn nhw fwy o lais wrth osod targedi. Mae ffigurau a ryddhawyd o Brifysgol Sir Caint, mewn cyswllt â'r Rhwydwaith Cymorth i Athrawon, yn dangos bod athrawon sydd a chanddynt ddyheadau gyrfaol a chyrchnod i ddysgu yn hapusach na'r sawl sydd yn wynebu disgwyliadau afrealistig. "Roedd y rhan fwyaf o athrawon ond yn dioddef o fod wedi chwythu plwc os oedden nhw o dan straen mawr" dywedodd Julian Childs o Brifysgol Sir Caint, a gynhaliodd yr Astudiaeth Gwaith Lles a Straen ynghyd â Dr Joachim Stoeber. "Ag eto, roedd athrawon oedd yn credu bod pobl eraill yn disgwyl iddyn nhw fod yn berffaith, yn dioddef o chwythu plwc mawr a diffyg lles p'un a oedden nhw'n goddef gan straen uchel neu beidio." Mewn gwrthgyferbyniad â hyn, roedd gan athrawon oedd yn gosod safonau perfformiad uchel ar gyfer eu hunain, lefelau uwch o les. Mewn modd tebyg, roedd gan athrawon oedd yn cyrchu at wneud cynnydd yn eu datblygiad proffesiynol, lefelau uwch o ynni meddyliol ac yn fwy buddsoddedig yn eu gwaith na'r sawl oedd yn canolbwyntio ar berfformio'n well nac eraill. Er hynny, mae'r astudiaeth o 197 o athrawon a gwblhawyd dwywaith yn ystod tri mis , yn ei gwneud hi'n glir y dylai athrawon osod safonau eu hunain, yn hytrach na chael eu gorfodi arnyn nhw gan gydweithwyr neu uwch reolwyr. A dweud y gwir, roedd gan athrawon oedd yn credu bod pobl eraill yn gofyn mwy na allan nhw ei roi, lefelau uwch o straen, iechyd drwg mewn perthynas â straen a chwythu plwc, yn ogystal â lefelau llai o les. "Mae angen i athrawon drafod cyrchnodau clir a chyraeddadwy gyda'u rheolwyr" ychwanegodd Julian Childs. "Yna, mae angen i reolwyr sicrhau bod gan athrawon yr adnoddau i gyflawni'r nodau hyn ac yn gallu sgwrsio am eu dyletswyddau sydd yn gwrthdaro a sut y gellir blaenoriaethu'r rhain." Mae safonau uwch yn debygol o fod o fud i fyfyrwyr hefyd, eglura Julian Childs: "Mae athrawon yn pasio eu cyrchnodau i fyfyrwyr: byd athrawon sydd yn canolbwyntio ar ddysgu a datblygu eu sgiliau yn meithrin yr un cyrchnod yn eu myfyrwyr." Caiff y farn yma ei adleisio gan y Rhwydwaith Cymorth i Athrawon. "Straen yw prif achos afiechyd mewn perhynas â gwaith yn sector addysg y DU" meddai Julian Stanley, Prif Weithredwr y Rhwydwaith Cymorth i Athrawon. "Credwn fod athrawon rhagorol yn cael eu creu yn rhannol gan yr amgylcheddau fyddan nhw'n gweithio ynddyn nhw. Rhaid cefnogi athrawon yn llwyr a'u datblygu drwy gydol eu gyrfaoedd, ond yn hanfodol, ni ddylid eu gorweithio, fel y gallan nhw, ac felly drwy ymestyniad, ein plant, gyrraedd eu potensial llawn." |
Rhowch GyfraniadMae ein gwasanaethau cyfrinachol sydd am ddim ar gyfer athrawon yn dibynu ar roddion gan bobl fel chi. Cyfrannwch NawrTanysgrifiwch am ddim i gael ein e-gylchlythyr sy’n llawn o newyddion addysg, gwybodaeth a chymorth. DECHRAU YMA!![]() | |
|
| ||
pwy ydym ni
Mae Teacher Support Cymru yn darparu cefnogaeth broffesiynol a phersonol i athrawon yng Nghymru, datblygir ein gwasanaethau mewn ymateb i sefyllfa addysgol a gwleidyddol gyfnewidiol er mwyn cwrdd ag anghenion ein hathrawon mor effeithiol â phosibl
support lines
Rydym yn cynnig gwybodaeth, cymorth a chyngor i athrawon a staff:
Cymru - 08000 855 088
England - 08000 562 561
Scotland - 0800 564 2270
mynnwch gymorth ar-lein
Mae ein tîm ar-lein ar gael ar gyfer cymorth, cyfrinachol am ddim.
Mynnwch gymorth nawrsearch our InfoCentre
Mae dros 1,400 o ffeithlenni ar gyfer athrawon yn ein Gwybodfan. Dewch o hyd i'r atebion drwy chwilio yma.
