Sut gall athrawon amddiffyn eu hunain ar safleoedd rhwydweithio cymdeithasol?By Sandra Taylor
Yn rhinwedd fy swydd fel Rheolwr Datblygu i Teacher Support Cymru byddaf yn teithio ar draws Cymru ac yn cwrdd ag Athrawon yn aml i ledu'r gair ynglŷn â'r gwaith rydym yn ei gyflawni yn yr elusen. Rwyf hefyd yn gwrando ar y pryderon a'r materion sy'n wynebu'r athrawon byddaf yn eu cwrdd ac ar un o fy ymweliadau diweddar ag ysgol gynradd yn Aberdâr roedd seibr-fwlio a rhwydweithio cymdeithasol yn bynciau llosg. Roedd gan athrawon ddiddordeb mawr i weld pa gamau gallent eu cymryd i amddiffyn eu hunain ar-lein, pa bethau ddylen nhw fod yn eu gwneud i sicrhau eu bod yn ddiogel a hefyd pa gyngor i roi i ddisgyblion pan fyddan nhw'n defnyddio safleoedd fel Facebook, Twitter neu MySpace. Mae'n bwnc y buom yn ei drafod llawer yn Teacher Support Cymru. Mewn arolwg o athrawon a gynhaliwyd gan Teacher Support a Chymdeithas yr Athrawon a Darlithwyr llynedd, dywedodd un ymhob saith o bobl a atebodd eu bod wedi dioddef seibr-fwlio. Dywedodd Julian Stanley, Prif Weithredwr Teacher Support Cymru: "Rydym wedi gweld cynnydd yn y nifer o athrawon a ddaeth i gyswllt â ni ynglŷn â'u profiadau o fwlio gan ddisgyblion, rhieni a staff ysgol drwy gyfrwng technolegau newydd fel y rhyngrwyd a ffonau symudol yn ystod y blynyddoedd diweddaraf. Daeth hyn i'n sylw drwy gyfrwng ein gwasanaethau cymorth sydd am ddim ac yn gyfrinachol. "Erbyn hyn, mae beth a fyddai wedi bod yn nodyn a basiwyd rhwng disgyblion yn y ‘stafell ddosbarth wedi ei bostio ar y rhyngrwyd er mwyn i bawb gael gweld." Yn 2009 helpom yr Adran Plant, Ysgolion a Theuluoedd i ysgrifennu canllawiau newydd i fynd i'r afael â bwlio staff drwy gyfrwng technoleg fel ffonau symudol a'r rhyngrwyd ac fe allwch ei weld ar ein gwefan yma. Byddai Teacher Support Cymru hefyd yn eich cynghori i beidio ag ymweld ag unrhyw safleoedd rhwydweithio cymdeithasol yn ystod oriau gwaith, yn enwedig os ydych yn postio gwybodaeth newydd sydd yn cael ei ddiweddaru ar dudalen cartref y safleoedd. Mae'r rhan fwyaf o ysgolion yn gwrthod mynediad at y safleoedd hyn felly mae'n debyg y byddwch yn methu â chael mynediad atyn nhw ta beth hynny. Am gymorth gyda seibr-fwlio, neu unrhyw fater arall, gallwch alwa ein Llinell Gymorth am ddim ar 0800 085 5800. Mae'r llinellau ar agor 24 awr y dydd, 7 dydd yr wythnos. |
Rhowch GyfraniadMae ein gwasanaethau cyfrinachol sydd am ddim ar gyfer athrawon yn dibynu ar roddion gan bobl fel chi. Cyfrannwch NawrTanysgrifiwch am ddim i gael ein e-gylchlythyr sy’n llawn o newyddion addysg, gwybodaeth a chymorth. DECHRAU YMA!![]() | |
|
| ||
pwy ydym ni
Mae Teacher Support Cymru yn darparu cefnogaeth broffesiynol a phersonol i athrawon yng Nghymru, datblygir ein gwasanaethau mewn ymateb i sefyllfa addysgol a gwleidyddol gyfnewidiol er mwyn cwrdd ag anghenion ein hathrawon mor effeithiol â phosibl
support lines
Rydym yn cynnig gwybodaeth, cymorth a chyngor i athrawon a staff:
Cymru - 08000 855 088
England - 08000 562 561
Scotland - 0800 564 2270
mynnwch gymorth ar-lein
Mae ein tîm ar-lein ar gael ar gyfer cymorth, cyfrinachol am ddim.
Mynnwch gymorth nawrsearch our InfoCentre
Mae dros 1,400 o ffeithlenni ar gyfer athrawon yn ein Gwybodfan. Dewch o hyd i'r atebion drwy chwilio yma.
