Materion Ariannol- ydych chi’n gyfarwydd â’ch ISA’s?P'un a ydych yn gynilwr rheolaidd neu heb gynilo ceiniog ers eich casgliad o foch NatWest, mae'n bwysig i wybod beth sydd ar gael a sut allwch elwa o roi peth heibio. Un o'r ffyrdd gorau o gynilo yw drwy ddefnyddio ISA (Cyfrif Cynilo Unigol), gan na fydd rhaid i chi dalu treth ar y llog. Mae'r rhan fwyaf o fanciau a chymdeithasau adeiladu yn cynnig cyfrifon ISA felly mae'n werth chwilio am y fargen orau. Y newyddion da yw bydd uchafsymiau ISA newydd yn dod i rym o Hydref 5, ar gyfer y sawl sydd dros 50 oed. Bydd angen i chi fod wedi eich geni cyn neu ar Ebrill 5, 1960 i gymhwyso. Bydd unigolion cymwys yn gallu cynilo hyd at £5,100 mewn ISA arian parod, a gellir rhoi gweddill eich lwfans - hyd at yr uchafswm cyflawn newydd o £10,200 - mewn ISA Stoc a chyfranddaliadau. Neu fe allwch ddefnyddio'ch lwfans cyfan ar gyfer ISA Stoc a Chyfranddaliadau yn unig. Bydd yr uchafsymiau newydd yma ar gael i bawb sydd yn 16 oed neu fwy o fis Ebrill 2010. Gallwch ddod o hyd i fwy o wybodaeth ynglŷn ag ISAs, y gwahanol fathau sydd ar gael a beth fyddai'n eich gweddu orau, ar ein ffeithlen newydd, Canllaw dechreuwyr i ISAs gan Gymdeithas Adeiladu'r Athrawon a fu mor garedig â'i ysgrifennu ar ein cyfer. Cofiwch fod ein cynghorwyr arian ar gael gyda chyngor am ddim a chyfrinachol 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos. Rhowch alwad i ni ar 08000 855 088. |
Rhowch GyfraniadMae ein gwasanaethau cyfrinachol sydd am ddim ar gyfer athrawon yn dibynu ar roddion gan bobl fel chi. Cyfrannwch NawrTanysgrifiwch am ddim i gael ein e-gylchlythyr sy’n llawn o newyddion addysg, gwybodaeth a chymorth. DECHRAU YMA!![]() | |
|
| ||
pwy ydym ni
Mae Teacher Support Cymru yn darparu cefnogaeth broffesiynol a phersonol i athrawon yng Nghymru, datblygir ein gwasanaethau mewn ymateb i sefyllfa addysgol a gwleidyddol gyfnewidiol er mwyn cwrdd ag anghenion ein hathrawon mor effeithiol â phosibl
support lines
Rydym yn cynnig gwybodaeth, cymorth a chyngor i athrawon a staff:
Cymru - 08000 855 088
England - 08000 562 561
Scotland - 0800 564 2270
mynnwch gymorth ar-lein
Mae ein tîm ar-lein ar gael ar gyfer cymorth, cyfrinachol am ddim.
Mynnwch gymorth nawrsearch our InfoCentre
Mae dros 1,400 o ffeithlenni ar gyfer athrawon yn ein Gwybodfan. Dewch o hyd i'r atebion drwy chwilio yma.
