Gofynion pwysau gwaith ar athrawon Cymreigby Sandra Taylor
Yn ddiweddar,fe ganfu Cyngres yr Undebau Llafur taw athrawon oedd ymhlith y ddau broffesiwn oedd fwyaf tebygol i weithio goramser. Mae hyn wedi tanio trafodaeth yn y cyfryngau ynglŷn â llwyth gwaith athrawon a'r oriau fyddan nhw'n gweithio mewn llythyr i DES Cymru'r wythnos ddiwethaf. Mae canfyddiadau Cyngres yr Undebau Llafur ynglŷn â'r oriau a weithiwyd gan athrawon yn cydberthyn â phrofiadau Teacher Support Cymru. Mae pwysau gwaith- ac o ganlyniad i hynny, yr angen i weithio llawer mwy o oriau na'r hyn a gontractiwyd - yn aml yn dod i'r wyneb fel materion sydd o bwys i nifer fawr o'r athrawon sy'n defnyddio ein Llinell Gymorth a gwasanaethau Cymorth Ar-lein. Gwyddom yn enwedig, bo nifer o athrawon yn ei chael hi'n anodd cynnal cydbwysedd iach rhwng gwaith a bywyd o ganlyniad i'r gofynion arnyn nhw yn ystod adeg y tymor. Mewn arolwg diweddar dywedodd 78 y cant o athrawon bod pwysau gwaith gormodol yn cyfrannu i broblemau iechyd meddwl cyffredin - fel stres, pryder ac iselder ysbryd - a oedd yn deillio o'r lle gwaith. Mae llythyr MR Toothill yn cydnabod bod y gwyliau ysgol, i nifer fawr o athrawon, wedi ei ddominyddu gan baratoadau ar gyfer y tymor newydd, a thrwy hynny yn sicrhau dros gwrs blwyddyn, bod pwysau gwaith athrawon lawer yn fwy na phobl broffesiynol eraill. Croesawir ymdrechion gan lywodraeth ac ysgolion i leihau pwysau gwaith athrawon. Fodd bynnag, mae ein profiadau'n dangos bod pwysau gwaith nifer o athrawon ar draws Cymru yn cael effaith niweidiol ar eu hiechyd emosiynol a'u gallu i ddysgu. Ein gobaith yw bod ein gwaith- ac adroddiad y Gyngres - yn helpu amlygu'r angen i leihau'r diwylliant o ‘oriau hir' sydd yn bodoli mewn nifer o ysgolion, a'n bod yn helpu i oleuo sgyrsiau cadarnhaol ac agored ar lefel ysgol a llywodraeth sydd yn amlygu buddion pwysau gwaith hydrin i athrawon er mwyn iechyd unigolion a safonau addysg yng Nghymru. |
Rhowch GyfraniadMae ein gwasanaethau cyfrinachol sydd am ddim ar gyfer athrawon yn dibynu ar roddion gan bobl fel chi. Cyfrannwch NawrTanysgrifiwch am ddim i gael ein e-gylchlythyr sy’n llawn o newyddion addysg, gwybodaeth a chymorth. DECHRAU YMA!![]() | |
|
| ||
pwy ydym ni
Mae Teacher Support Cymru yn darparu cefnogaeth broffesiynol a phersonol i athrawon yng Nghymru, datblygir ein gwasanaethau mewn ymateb i sefyllfa addysgol a gwleidyddol gyfnewidiol er mwyn cwrdd ag anghenion ein hathrawon mor effeithiol â phosibl
support lines
Rydym yn cynnig gwybodaeth, cymorth a chyngor i athrawon a staff:
Cymru - 08000 855 088
England - 08000 562 561
Scotland - 0800 564 2270
mynnwch gymorth ar-lein
Mae ein tîm ar-lein ar gael ar gyfer cymorth, cyfrinachol am ddim.
Mynnwch gymorth nawrsearch our InfoCentre
Mae dros 1,400 o ffeithlenni ar gyfer athrawon yn ein Gwybodfan. Dewch o hyd i'r atebion drwy chwilio yma.
