Efallai bydd stori Mari yn eich arswydoAc mae cannoedd fel hiYn ystod blynyddoedd blaenorol fe allai athrawon fod wedi datrys eu problemau heb gymorth, golyga pwysau ariannol y misoedd diwethaf fod nifer gynyddol o athrawon cyffredin wedi canfod eu hunain mewn sefyllfaoedd amhosib.
Mae cyfres o brofedigaethau teuluol wedi ychwanegu at deimladau Mari o golled ac o fod yn ddiymadferth. Ar yr un pryd, mae credydwyr ei gŵr wedi bod yn ei phoeni am daliadau mewn perthynas â dyledion na wyddai hi ddim amdanyn nhw. Mae Mari wedi bod yn ceisio cadw dau ben llinyn ynghyd ar gyfer hithau a'i ddau fab wrth weithio llawn amser a thalu'r morgais. Nid yw'n syndod felly bod diagnosis o iselder ysbryd arni, ac mae hyn wedi cael ei waethygu gan bwysedd gwaed uchel a'r stres ychwanegol o gael un mab a chanddo asthma hirfaith. Daeth y cyfan i'r pen pan, yn dilyn misoedd o ymdrechu caled i dalu ei morgais, cafodd gorchymyn adfeddiannu ei gyflwyno i Mari. Dyw Mari ddim yn wastraffus. Dyw hi ddim yn anghyfrifol. Erbyn iddi roi galwad i ni, bydd hi eisoes wedi ymdrechu'n galed i wynebu ei anawsterau, ond wedi cael ei gorlethu ganddyn nhw. Fel Mari, mae nifer sylweddol o'r athrawon sydd yn dod i gyswllt â ni ar hyn o bryd mewn perygl o golli eu cartrefi drwy adfeddiant. Mae'r rhan fwyaf wedi eu blino'n gorfforol ac yn emosiynol. Does dim amheuaeth fod eu gwaith - a'u hiechyd - yn dioddef.
Ond dyw Mari ddim yn un athrawes yn unig. Mae sawl Mari'n bodoli - a sawl Meical hefyd - yn y proffesiwn dysgu, ac yn aml bydd ganddyn nhw hanesion torcalonnus i'w hadrodd. Athrawes lawn-amser a wnaeth waith tiwtorio ychwanegol hyd nes i'r dirwasgiad ddod â'r gwaith hwn i ben. Yr athro a gafodd fenthyciadau er mwyn cwrdd â rhwymedigaethau bob dydd ac sydd nawr yn ei chael hi'n amhosib i'w talu'n ôl. Athrawes wedi ymddeol yw Mari sydd hefyd yn ofalwr ac sydd yn gorfod brwydro gyda'i iechyd gwael hi ei hun ac sydd â dirfawr angen gwyliau.
Un o'n hamcanion yn y Rhwydwaith Cymorth i Athrawon yw helpu i sicrhau bod yr athrawon hyn yn gallu rhoi o'u gorau yn y dosbarth. Yn yr hinsawdd economaidd bresennol, mae bywyd yn annioddefol i lawer gormod o athrawon. Gall helpu i roi'r math cywir o gymorth i unigolion a'u teuluoedd fod yn broses hir. Bydd pob athro sy'n dod i gyswllt â ni yn cael cymorth cyfrinachol am ddim gan rywun sydd yn deall eu problemau ac yn gallu cynnig help arbenigol ac adeiladol. Byddwch cystal â gwneud cyfraniad heddiw, er mwyn i ni allu parhau i ddarparu llinell-fywyd angenrheidiol i athrawon fel Mari. Diolch. Mae sawl ffordd o gyfrannu:
Julian Stanely, Teacher Support Cymru Chief Executive |
Rhowch GyfraniadMae ein gwasanaethau cyfrinachol sydd am ddim ar gyfer athrawon yn dibynu ar roddion gan bobl fel chi. Cyfrannwch NawrTanysgrifiwch am ddim i gael ein e-gylchlythyr sy’n llawn o newyddion addysg, gwybodaeth a chymorth. DECHRAU YMA!![]() | |
|
| ||
pwy ydym ni
Mae Teacher Support Cymru yn darparu cefnogaeth broffesiynol a phersonol i athrawon yng Nghymru, datblygir ein gwasanaethau mewn ymateb i sefyllfa addysgol a gwleidyddol gyfnewidiol er mwyn cwrdd ag anghenion ein hathrawon mor effeithiol â phosibl
support lines
Rydym yn cynnig gwybodaeth, cymorth a chyngor i athrawon a staff:
Cymru - 08000 855 088
England - 08000 562 561
Scotland - 0800 564 2270
mynnwch gymorth ar-lein
Mae ein tîm ar-lein ar gael ar gyfer cymorth, cyfrinachol am ddim.
Mynnwch gymorth nawrsearch our InfoCentre
Mae dros 1,400 o ffeithlenni ar gyfer athrawon yn ein Gwybodfan. Dewch o hyd i'r atebion drwy chwilio yma.
Ystyriwch achos Mari. Yn athrawes ganol oed, a hithau wedi gwneud nifer o flynyddoedd o wasanaeth, fe roddodd Mari alwad i ni wedi i'w gŵr ei gadael hi gyda'u dau mab i ofalu amdanyn nhw ar ei phen ei hunan.
