|
From the Teacher Support Network, www.teachersupport.info.
EFALLAI BYDD STORI MARI YN EICH ARSWYDO
Ac mae cannoedd fel hi
Yn ystod blynyddoedd blaenorol fe allai athrawon fod wedi datrys eu problemau heb gymorth, golyga pwysau ariannol y misoedd diwethaf fod nifer gynyddol o athrawon cyffredin wedi canfod eu hunain mewn sefyllfaoedd amhosib.
Ystyriwch achos Mari. Yn athrawes ganol oed, a hithau wedi gwneud nifer o flynyddoedd o wasanaeth, fe roddodd Mari alwad i ni wedi i'w gŵr ei gadael hi gyda'u dau mab i ofalu amdanyn nhw ar ei phen ei hunan.
Mae cyfres o brofedigaethau teuluol wedi ychwanegu at deimladau Mari o golled ac o fod yn ddiymadferth. Ar yr un pryd, mae credydwyr ei gŵr wedi bod yn ei phoeni am daliadau mewn perthynas â dyledion na wyddai hi ddim amdanyn nhw. Mae Mari wedi bod yn ceisio cadw dau ben llinyn ynghyd ar gyfer hithau a'i ddau fab wrth weithio llawn amser a thalu'r morgais.
Nid yw'n syndod felly bod diagnosis o iselder ysbryd arni, ac mae hyn wedi cael ei waethygu gan bwysedd gwaed uchel a'r stres ychwanegol o gael un mab a chanddo asthma hirfaith. Daeth y cyfan i'r pen pan, yn dilyn misoedd o ymdrechu caled i dalu ei morgais, cafodd gorchymyn adfeddiannu ei gyflwyno i Mari.
Dyw Mari ddim yn wastraffus. Dyw hi ddim yn anghyfrifol. Erbyn iddi roi galwad i ni, bydd hi eisoes wedi ymdrechu'n galed i wynebu ei anawsterau, ond wedi cael ei gorlethu ganddyn nhw. Fel Mari, mae nifer sylweddol o'r athrawon sydd yn dod i gyswllt â ni ar hyn o bryd mewn perygl o golli eu cartrefi drwy adfeddiant. Mae'r rhan fwyaf wedi eu blino'n gorfforol ac yn emosiynol. Does dim amheuaeth fod eu gwaith - a'u hiechyd - yn dioddef.
Ond dyw Mari ddim yn un athrawes yn unig. Mae sawl Mari'n bodoli - a sawl Meical hefyd - yn y proffesiwn dysgu, ac yn aml bydd ganddyn nhw hanesion torcalonnus i'w hadrodd. Athrawes lawn-amser a wnaeth waith tiwtorio ychwanegol hyd nes i'r dirwasgiad ddod â'r gwaith hwn i ben. Yr athro a gafodd fenthyciadau er mwyn cwrdd â rhwymedigaethau bob dydd ac sydd nawr yn ei chael hi'n amhosib i'w talu'n ôl. Athrawes wedi ymddeol yw Mari sydd hefyd yn ofalwr ac sydd yn gorfod brwydro gyda'i iechyd gwael hi ei hun ac sydd â dirfawr angen gwyliau.
Un o'n hamcanion yn y Rhwydwaith Cymorth i Athrawon yw helpu i sicrhau bod yr athrawon hyn yn gallu rhoi o'u gorau yn y dosbarth. Yn yr hinsawdd economaidd bresennol, mae bywyd yn annioddefol i lawer gormod o athrawon.
Gall helpu i roi'r math cywir o gymorth i unigolion a'u teuluoedd fod yn broses hir. Bydd pob athro sy'n dod i gyswllt â ni yn cael cymorth cyfrinachol am ddim gan rywun sydd yn deall eu problemau ac yn gallu cynnig help arbenigol ac adeiladol.
Byddwch cystal â gwneud cyfraniad heddiw, er mwyn i ni allu parhau i ddarparu llinell-fywyd angenrheidiol i athrawon fel Mari. Diolch.
Mae sawl ffordd o gyfrannu:

Julian Stanely, Teacher Support Cymru Chief Executive
Source information:
Posted in:
newyddion,
Article page: http://teachersupport.info/cymru/newyddion/Efallai-bydd-stori-Mari-yn-eich-arswydo.php
Printable page: http://teachersupport.info/cymru/newyddion/Efallai-bydd-stori-Mari-yn-eich-arswydo-printer.php
Copyright ©2012 Teacher Support Network or credited source. Please share this page with your colleagues!
|