Diwrnod Ysgol Iachus yn NinbychBy Sandra Taylor
Yn rhinwedd fy swydd fel Rheolwr Datblygu i Teacher Support Cymru rwy'n ffodus i gael fy ngwahodd i rai digwyddiadau arbennig gan ysgolion. Roedd yn bleser mawr i mi'r wythnos ddiwethaf i gael ymuno â Diwrnod Iechyd a Lles, a gynhaliwyd yn Ysgol Twm O'r Nant yn Ninbych ac a drefnwyd gan y Pennaeth, Geraint Davies. There day was poedd y dydd yn llawn o weithgareddau gan gynnwys gwirio pwysedd gwaed a cholesterol. Unwaith i'r plant fynd adref cafwyd cyfle i bawb gymryd rhan mewn ystod o sesiynau, gan gynnwys tylino pen, bwyta'n iachus, sgwrs am iechyd galwedigaethol, osteopathi a'r cyfle i ddysgu mwy am Teacher Support Cymru. Er bod materion lles yn cael eu cymryd o ddifrif yn yr ysgol, sydd â ganddi bwyllgor lles staff sydd yn cwrdd bob hanner tymor i drafod materion ac i benderfynu os oes unrhyw beth yr hoffen nhw gymryd i'r pennaeth, cafwyd peth adborth cadarnhaol iawn o'r diwrnod. Mwynhaodd yr athrawon y sesiwn ac roedden nhw'n falch o gael y cyfle i gymryd peth amser allan a chymryd gofal o'u hunain. Mae Geraint Davies eisoes yn cynllunio ailadroddiad o'r diwrnod yn hwyrach yn ystod y flwyddyn! Os hoffech chi gael gwybod mwy ynglŷn ag ymweliadau gan Teacher Support Cymru â'ch ysgol, neu os hoffech chi gael rhai syniadau ar gyfer trefnu eich diwrnod ysgol iachus eich hunain, byddwch cystal â dod i gyswllt â fi ar Sandra.taylor@teachersupport.info Mae Teacher Support Cymru yn cynnig gwasanaethau am ddim, cyfrinachol a dwyieithog sydd ar gael 24/7. Rhowch alwad i ni ar 0800 085 5088 neu ymwelwch â'r wefan ar www.teachersupport.info/cymru gael ffeithlenni, y newyddion diweddaraf a'n hoffer ar-lein rhyngweithiol. |
Rhowch GyfraniadMae ein gwasanaethau cyfrinachol sydd am ddim ar gyfer athrawon yn dibynu ar roddion gan bobl fel chi. Cyfrannwch NawrTanysgrifiwch am ddim i gael ein e-gylchlythyr sy’n llawn o newyddion addysg, gwybodaeth a chymorth. DECHRAU YMA! | |
|
| ||
pwy ydym ni
Mae Teacher Support Cymru yn darparu cefnogaeth broffesiynol a phersonol i athrawon yng Nghymru, datblygir ein gwasanaethau mewn ymateb i sefyllfa addysgol a gwleidyddol gyfnewidiol er mwyn cwrdd ag anghenion ein hathrawon mor effeithiol â phosibl
support lines
Rydym yn cynnig gwybodaeth, cymorth a chyngor i athrawon a staff:
Cymru - 08000 855 088
England - 08000 562 561
Scotland - 0800 564 2270
mynnwch gymorth ar-lein
Mae ein tîm ar-lein ar gael ar gyfer cymorth, cyfrinachol am ddim.
Mynnwch gymorth nawrsearch our InfoCentre
Mae dros 1,400 o ffeithlenni ar gyfer athrawon yn ein Gwybodfan. Dewch o hyd i'r atebion drwy chwilio yma.