Cynhadledd Athrawon Cyflenwi


Cynhaliwyd sesiwn hyfforddi'r wythnos hon gan Teacher Support Cymru i helpu athrawon cyflenwi adnabod pa bethau oedd yn achosi straen a sut oedd datblygu ffordd o'i reoli.

"Dyw e ddim yn hawdd i athrawon cyflenwi ddod at ei gilydd oherwydd fe allant gael eu cyfyngu gan y rhybudd byr a geir gan gyfleoedd gwaith" meddai Sandra Taylor, Rheolwr Datblygu Teacher Support Cymru. "Fe ganiataodd y sesiwn i'r sawl a'i mynychodd i ganolbwyntio ar yr heriau unigol a'r pwysau sy'n eu hwynebu ac ar yr un pryd fe roddwyd cyfle i bawb fod yn bositif ynglŷn â'r rhesymau pam y daethon nhw'n athrawon cyflenwi"

Cafodd y diwrnod ei gynnal o fewn y gynhadledd gyntaf i gael ei redeg ar y cyd gan Gyrfa Cymru Gorllewin, Prifysgol Fetropolitan Abertawe a New Directions, ac roedd yn cynnwys cyflwyniad sef 'Diwrnod ym mywyd athro cyflenwi' ynghyd â gweithdy ar reoli ymddygiad.

Am fwy o wybodaeth ynglŷn â bod yn athro cyflenwi, cymerwch olwg ar y ffeithlenni canlynol:





 

SITE TOOLS