Croesawu Buddsoddiad mewn Addysg gan y Cynulliad Cenedlaethol

Buddsoddiad o £109 miliwn mewn addysg yng Nghymru

By Rhia Stankovic-Jones

Cafwyd y newyddion yr wythnos diwethaf fod Llywodraeth Cynulliad Cymru am fuddsoddi £109 miliwn mewn addysg fel rhan o'i raglen ar gyfer ysgolion yr unfed ganrif ar hugain.

Bydd 40 o ysgolion a cholegau yn elwa o'r arian, fydd yn adeiladau 12 sefydliad newydd ac yn adnewyddu 10 arall yn “sylweddol”.

Dywedodd y Gweinidog Addysg Jane Hutt, mai'r cynllun oedd i “ddatblygu cynllun buddsoddi cyfalaf strategol hirdymor fyddai'n cael effaith ar bob ysgol, coleg a phrifysgol yng Nghymru.”

Mae buddsoddiad Llywodraeth y Cynulliad yn newyddion da i'r ysgolion hynny. Yn 2007, cynhaliwyd arolwg ar y cyd o 530 o athrawon ynglŷn ag adeiladau ysgol gan riant-sefydliad Teacher Support Cymru - sef y Teacher Support Network - a'r Cyngor Prydeinig Dros Amgylcheddau Ysgolion (British Council for School Environments (BCSE)). Dywedodd 12 y cant yn unig fod eu hadeilad yn cynnig amgylchedd dysgu effeithiol. Roedd 87 y cant yn credu bod amgylcheddau ysgolion yn dylanwadu ar ymddygiad disgyblion a dywedodd 60 y cant nad oedd gan eu hysgol amgylchedd addasadwy i allu cynnal cyflenwi'r cwricwlwm.

Dangosodd yr arolwg yn glir gall cyfleusterau gwael gael effaith niweidiol ar berfformiad a lles disgyblion a staff ysgolion. Gall acwsteg wael lesteirio cyfathrebu ac effeithio ar hyder athrawon, tra bod rheolaeth wael ar dymheredd yn gallu effeithio ar ganolbwyntio, gan niweidio dysgu ac addysgu.

Ym mis Mehefin llynedd, cynhaliom drafodaeth o amgylch y ford gyda BCSE a ddaeth â'r deiliaid diddordeb allweddol ynghyd ar gyfer y rhaglen Adeiladu Ysgolion ar gyfer y Dyfodol (Building Schools for the Future (BSF)): cynllun fydd yn gweld cyfalaf blynyddol ar gyfer ysgolion yn Lloegr yn cynyddu i fwy nag £8 biliwn erbyn 2010-11 fan bellaf. Cafodd nifer o broblemau eu nodi gan y rhai a fynychodd y digwyddiad - gan gynnwys penseiri, undebau dysgu a'r DCSF - a phenderfynwyd bod angen cyfeirio atyn nhw yn enwedig ynglŷn ag ymgynghori ag athrawon a phenseiri.

Er mwyn lliniaru'r problemau yma, hoffem weld llawer mwy o ryngweithiad rhwng penseiri ac athrawon drwy gydol y broses a gweithredu er mwyn sicrhau nad oes gormod o faich yn cael ei roi ar benseiri. Rhaid i'r broses caffaeliaid rhoi llawer mwy o ystyriaeth i gyfanswm y llwyth gwaith a chostau'r rhai sy'n cynnig. Dylid ystyried yr opsiynau o leihad pellach yn y nifer o gynlluniau sampl a mwy o amser ar gyfer y cyfnod dylunio. Yn ychwanegol i hyn, credwn y byddai'r broses o adeiladu ac adnewyddu ysgolion yn elwa pe bai unigolyn wedi'i enwi a'i gynnwys ymhob proses caffael ac fe fyddai'n gyfrifol am sicrhau fod athrawon wedi ymglymu'n llawn a'u cefnogi o'r dechrau hyd at y diwedd. Er mwyn caniatáu hyn, dylid rhoi cymorth hefyd i athrawon i allu rhyddhau amser fyddai'n eu galluogi i ymglymu'n weithgar â'r broses.

Mae creu'r amgylcheddau iawn ar gyfer ysgolion yn hanfodol ar gyfer athrawon a disgyblion hefyd ac mae'r ffaith fod Llywodraeth y Cynulliad Cenedlaethol yn ariannu hyn yn newyddion ardderchog. Gyda'r lefelau cywir o ymglymiad gan athrawon a phenseiri yn y broses, mae'r arian yn cynrychioli cyfraniad sylweddol tuag at ddatblygiad ysgolion fydd yn gallu dysgu plant yn bell mewn i'r unfed ganrif ar hugain.

Peidiwch anghofio ein bod yma i'ch cefnogi chi 24 awr y dydd, 7 dydd yr wythnos. Galwch ein Llinell Gymorth ar 0800 085 5088.





 

SITE TOOLS