Chwyldro yn ystafell yr athrawon wrth i fenywod gael y swyddi gorauJoe Williams
Cafwyd adroddiad yn The Guardian yn ddiweddar ynglŷn â chanlyniadau ymchwil o'r pymthegfed astudiaeth flynyddol i swyddi gwag ar gyfer penaethiaid yng Nghymru a Lloegr. Dangosodd yr astudiaeth, a gomisiynwyd gan Gymdeithas Cenedlaethol y Prifathrawon (NAHT) a Chymdeithas Arweinwyr Ysgolion a Cholegau Leaders (ASCL), bod y gyfran o ysgolion uwchradd sydd yn cael eu rhedeg gan fenywod yn cael ei gynyddu i 44 y cant ym mlwyddyn academaidd 2008/09 o 31 y cant y flwyddyn flaenorol. Gwelwyd tuedd tebyg mewn ysgolion cynradd hefyd, lle mae 70 y cant o benaethiaid nawr yn fenywod. Mae 38 y cant o dan 39 oed - cynnydd o dri phwynt canran ar y llynedd. Dylid estyn croeso cynnes i'r cynnydd yn y nifer o fenywod sydd yn dal swyddi arweinyddiaeth mewn ysgolion, a hoffai'r Rhwydwaith Cymorth i Athrawon longyfarch pawb wnaeth symud yn ddiweddar i fod yn bennaeth. Er hynny, gwyddom o ryngweithio gyda miloedd o athrawon bob blwyddyn, bod camwahaniaethu o fewn addysg yn dal i fodoli. Yn ystadegol, mae dynion yn parhau i fod yn fwy tebygol o fod yn benaethiaid mewn ysgolion cynradd nac athrawon dosbarth, sydd yn awgrymu bod y nifer gymharol fach o ddynion sydd yn gweithio gyda phlant iau yn dueddol o fod yn uwch reolwyr. Yn anffodus, nid ar sail rhyw yn unig y bodd gwahaniaethu'n digwydd mewn ysgolion a'r gymuned fwy eang. Gellir barnu pobl yn seiliedig ar eu hethnigrwydd, oed, ffydd neu alluoedd corfforol. Mae'r Rhwydwaith Cymorth i Athrawon yma i helpu unrhyw un sydd yn credu eu bod yn dioddef o gamwahaniaethu a hefyd yno i helpu'r bobl hynny sydd mewn swyddi arweinyddiaeth i sicrhau eu bod yn trin pawb yn deg. Mae'n bwysig fod gan ysgolion ac Awdurdodau Lleol bolisïau gweithdrefnau mewn lle i sicrhau nad yw'r fath wahaniaethu yn digwydd, fel y gallwch chi neu eich cynrychiolydd undeb ymgynghori â'ch ysgol er mwyn gweld pa fesurau sydd yn bresennol. Yn ychwanegol i'r ffeithlenni uchod gellir dod o hyd iddynt ar ein gwefan www.teachersupport.info/cymru gallwch alw ein llinell gymorth gyfrinachol, am ddim hefyd ar 08000 855 088. |
Rhowch GyfraniadMae ein gwasanaethau cyfrinachol sydd am ddim ar gyfer athrawon yn dibynu ar roddion gan bobl fel chi. Cyfrannwch NawrTanysgrifiwch am ddim i gael ein e-gylchlythyr sy’n llawn o newyddion addysg, gwybodaeth a chymorth. DECHRAU YMA!![]() | |
|
| ||
pwy ydym ni
Mae Teacher Support Cymru yn darparu cefnogaeth broffesiynol a phersonol i athrawon yng Nghymru, datblygir ein gwasanaethau mewn ymateb i sefyllfa addysgol a gwleidyddol gyfnewidiol er mwyn cwrdd ag anghenion ein hathrawon mor effeithiol â phosibl
support lines
Rydym yn cynnig gwybodaeth, cymorth a chyngor i athrawon a staff:
Cymru - 08000 855 088
England - 08000 562 561
Scotland - 0800 564 2270
mynnwch gymorth ar-lein
Mae ein tîm ar-lein ar gael ar gyfer cymorth, cyfrinachol am ddim.
Mynnwch gymorth nawrsearch our InfoCentre
Mae dros 1,400 o ffeithlenni ar gyfer athrawon yn ein Gwybodfan. Dewch o hyd i'r atebion drwy chwilio yma.
