Canfod eich cydbwysedd gyda’r Dewin Bywyd-Gwaithby Sally Baker
Bydd gŵyl y Nadolig yma cyn bo hir, ac mae croeso mawr i’r toriad sydd ar y gorwel wrth i ddiwedd y tymor nesáu. Wrth i’n meddyliau droi tuag at dartenni Nadolig a gwin â pherlysiau, dyma gyfle i chi gymryd hoe allan o’r gwaith ac i ymlacio gyda’ch teulu a’ch ffrindiau. Ond os ydych chi’n credu y byddwch yn ei chael hi’n anodd rhoi’r gwaith i gefn y meddwl am bythefnos, gall ein harf Dewin Bywyd-Gwaith newydd eich helpu i ddod o hyd i gydbwysedd mewn bywyd a’i gadw o dan reolaeth. Mae’r arf wedi ei ddylunio i roi asesiad i chi o’ch gofynion gwaith a’ch llwyth gwaith. Bydd yn eich helpu i ddod i’r afael â sut mae’r pethau hyn yn gysylltiedig â’ch personoliaeth, ffordd o weithio a’ch cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith. Nid asesiad seicometrig yw hwn, ond fe’i cynlluniwyd i’ch helpu i adnabod materion o bwys ac i adlewyrchu ar eich amgylchiadau gwaith. Cofiwch yn ei hun, dydy llwyth gwaith uchel ddim o reidrwydd yn arwydd o stres negyddol neu gyflwr lles gwael. Mae cymhelliad swydd a gweddu i’r swydd hefyd yn bwysig. Mae’n arf rhyngweithiol, felly bydd angen i chi wneud allbrint o’r Daflen Waith Dewinol yn gyntaf ac yna’i ddefnyddio i gwblhau’r ymarferion ar-lein. Cliciwch yma i gael gwybod mwy a rhowch dro ar ein Dewin Bywyd Gwaith. Unwaith i chi gwblhau’r Dewin Bywyd Gwaith bydd gyda chi gyfle i ddanfon eich canlyniadau yn uniongyrchol at ein Tîm Cymorth Ar-Lein ar gyfer cymorth ychwanegol, neu fe allwch alw ein hymgynghorwyr ar unrhyw adeg ac yn gwbl gyfrinachol. Rhowch alwad i ni ar 08000 855 088, mae’r llinellau ar agor 24 awr y dydd, 7 dydd yr wythnos.
|
Rhowch GyfraniadMae ein gwasanaethau cyfrinachol sydd am ddim ar gyfer athrawon yn dibynu ar roddion gan bobl fel chi. Cyfrannwch NawrTanysgrifiwch am ddim i gael ein e-gylchlythyr sy’n llawn o newyddion addysg, gwybodaeth a chymorth. DECHRAU YMA!![]() | |
|
| ||
pwy ydym ni
Mae Teacher Support Cymru yn darparu cefnogaeth broffesiynol a phersonol i athrawon yng Nghymru, datblygir ein gwasanaethau mewn ymateb i sefyllfa addysgol a gwleidyddol gyfnewidiol er mwyn cwrdd ag anghenion ein hathrawon mor effeithiol â phosibl
support lines
Rydym yn cynnig gwybodaeth, cymorth a chyngor i athrawon a staff:
Cymru - 08000 855 088
England - 08000 562 561
Scotland - 0800 564 2270
mynnwch gymorth ar-lein
Mae ein tîm ar-lein ar gael ar gyfer cymorth, cyfrinachol am ddim.
Mynnwch gymorth nawrsearch our InfoCentre
Mae dros 1,400 o ffeithlenni ar gyfer athrawon yn ein Gwybodfan. Dewch o hyd i'r atebion drwy chwilio yma.
