Blwyddyn Newydd, Person Newydd!Rhowch gynnig ar ein Olwyn LlesI nifer fawr ohonom, gall dechrau blwyddyn newydd fod yn gyfle gwych i wneud dechreuad newydd. Yn dilyn nifer o wythnosau o gael gormodedd o fins peis a gwydrau o win sbeis, daw Ionawr ac addunedau lu i geisio cael llechen lân a cheisio cael gwared ar arferion drwg, gan wneud newidiadau positif i’ch bywyd. Ond sut allwn ni sicrhau na fydd ein haddunedau yn cael eu rhoi i’r naill ochr, a bod y flwyddyn newydd yn dod â gwelliant gwirioneddol i’n lles; yn feddyliol a chorfforol? Gallech roi cynnig ar ein Olwyn lles ar-lein i helpu i’ch creu yn ‘berson newydd’. Cydbwysedd yw hanfod bywyd, ac mae’r Olwyn wedi ei gynllunio i’ch helpu chi i gymryd golwg ar ystod eang o feysydd yn eich bywyd. Drwy wella’r cydbwysedd rhyngddyn nhw, gallwch wella’ch lles. Mae’n gyfle i chi adlewyrchu ar gyflwr eich lles ac i adnabod meysydd o’ch bywyd yr hoffech eu newid. Mae hefyd yn rhyngweithiol, felly bydd angen i chi allbrintio templed Olwyn Llesi’w gwblhau wrth i chi wneud yr ymarferion ar-lein. Ceir chwe adran yn ymwneud ag ystod gyfan o destunau. Peidiwch â phoeni! Dim ond ychydig o funudau'r un ddylen nhw gymryd. Byddwn hefyd yn rhoi gwybodaeth ddefnyddiol a syniadau i chi i gwblhau'r ymarfer. · Cliciwch yma i gael allbrint o’ch templed Olwyn Lles cyn i chi ddechrau. (Mae mewn fformat PDF.) · Cliciwch yma i ddechrau’r Olwyn Lles. Os taw un o’ch addunedau yw dod yn ffit yn 2010, fe allech feddwl am gymryd rhan yn un o’n digwyddiadau heriol a helpu i gefnogi’r elusen ar yr un pryd. Mae gyda ni lefydd ar gael Marathon Virgin Llundain, Hanner Marathon Adidas Silverstone, Marathon Caeredin a Ras Gyfnewid yr Hagis Gwalltog. Canfyddwch sut allwch chi gymryd rhan. |
Rhowch GyfraniadMae ein gwasanaethau cyfrinachol sydd am ddim ar gyfer athrawon yn dibynu ar roddion gan bobl fel chi. Cyfrannwch NawrTanysgrifiwch am ddim i gael ein e-gylchlythyr sy’n llawn o newyddion addysg, gwybodaeth a chymorth. DECHRAU YMA!![]() | |
|
| ||
pwy ydym ni
Mae Teacher Support Cymru yn darparu cefnogaeth broffesiynol a phersonol i athrawon yng Nghymru, datblygir ein gwasanaethau mewn ymateb i sefyllfa addysgol a gwleidyddol gyfnewidiol er mwyn cwrdd ag anghenion ein hathrawon mor effeithiol â phosibl
support lines
Rydym yn cynnig gwybodaeth, cymorth a chyngor i athrawon a staff:
Cymru - 08000 855 088
England - 08000 562 561
Scotland - 0800 564 2270
mynnwch gymorth ar-lein
Mae ein tîm ar-lein ar gael ar gyfer cymorth, cyfrinachol am ddim.
Mynnwch gymorth nawrsearch our InfoCentre
Mae dros 1,400 o ffeithlenni ar gyfer athrawon yn ein Gwybodfan. Dewch o hyd i'r atebion drwy chwilio yma.
