Adroddiad 2009 yn dangos poblogrwydd llinell gymorth ddwyieithogRhyddhawyd Adrodd Teacher Support Cymru 2009 yr wythnos hon gyda ffigurau am y flwyddyn yn dangos bod athrawon o Gymru yn dangos mwy o hoffter am eu Llinell Gymorth na gweddill y DU. Cynhaliwyd 19 y cant o ddefnydd y gwasanaeth yng Nghymru llynedd drwy gyfrwng y Llinell Gymorth ddwyieithog, am ddim , cyfrinachol, 24/7. Mae hyn i’w gymharu â gweddill Grŵp yr elusen, sydd yn cynnwys Lloegr, Teacher Support Scotland a’r Rhwydwaith Cymorth i Golegau a Phrifysgolion, lle cafodd saith y cant o ryngweithiadau gydag athrawon a phobl addysg broffesiynol eraill eu cynnal dros y ffôn. Er gwaethaf poblogrwydd y Llinell Gymorth, tyfodd gwasanaethau cymorth eraill yng Nghymru mewn poblogrwydd hefyd, gyda’r defnydd o Ganolfan Wybodaeth dddwyieithog Teacher Support Cymru - sydd yn cynnwys dros 1,000 o ffeithlenni cyngor a gwybodaeth - cynnydd o 65 y cant ar y flwyddyn flaenorol. Mae’r adroddiad hefyd yn dangos y gwelwyd cynnydd anferth yn y galw am wasanaethau ar draws Grŵp y Rhwydwaith Cymorth i Athrawon yn 2009, gyda chyfanswm y defnydd a wnaed o’r gwasanaeth yn codi gan 84 y cant. Dywedodd Julian Stanley, Prif Weithredwr Teacher Support Cymru: “Tyfodd y galw am wasanaethau Teacher Support Cymru eto llynedd. Rydym yn falch iawn bod natur ddwyieithog ein gwasanaethau wedi gallu bod o gymorth i gynifer o athrawon ar hyd y wlad yn y Gymraeg a’r Saesneg, ond mae’r ffigurau’n ein hatgoffa o faint mwy o waith sydd i’w wneud. “Bydd 2010 yn cynrychioli blwyddyn hanfodol ar gyfer yr elusen wrth i ni chwilio ymhellach i wella lles ein hathrawon yng Nghymru a denu’r nawdd sydd gymaint ei angen er mwyn sicrhau dyfodol hir-dymor Teacher Support Cymru.” |
Rhowch GyfraniadMae ein gwasanaethau cyfrinachol sydd am ddim ar gyfer athrawon yn dibynu ar roddion gan bobl fel chi. Cyfrannwch NawrTanysgrifiwch am ddim i gael ein e-gylchlythyr sy’n llawn o newyddion addysg, gwybodaeth a chymorth. DECHRAU YMA!![]() | |
|
| ||
pwy ydym ni
Mae Teacher Support Cymru yn darparu cefnogaeth broffesiynol a phersonol i athrawon yng Nghymru, datblygir ein gwasanaethau mewn ymateb i sefyllfa addysgol a gwleidyddol gyfnewidiol er mwyn cwrdd ag anghenion ein hathrawon mor effeithiol â phosibl
support lines
Rydym yn cynnig gwybodaeth, cymorth a chyngor i athrawon a staff:
Cymru - 08000 855 088
England - 08000 562 561
Scotland - 0800 564 2270
mynnwch gymorth ar-lein
Mae ein tîm ar-lein ar gael ar gyfer cymorth, cyfrinachol am ddim.
Mynnwch gymorth nawrsearch our InfoCentre
Mae dros 1,400 o ffeithlenni ar gyfer athrawon yn ein Gwybodfan. Dewch o hyd i'r atebion drwy chwilio yma.
