TEACHER SUPPORT CYMRU YN RHOI CROESO I DRAFODAETH AR AROLYGIADAU YSGOL MWY CEFNOGOL


Mae Teacher Support Cymru (TSC) wedi dweud ei fod yn croesawu trafodaeth bellach ar arolygiadau ysgol mwy cefnogol. Daw'r cyhoeddiad wrth i Estyn lansio fframwaith arolygu newydd, fydd yn canolbwyntio ar roi mwy o gefnogaeth a monitro ar gyfer darparwyr dysgu yng Nghymru.

"Gall arolygiadau, neu hyd yn oed y disgwyliad o gael arolygiad fod yn ffynhonnell sylweddol o stres i athrawon" meddai Julian Stanley, Prif Weithredwr TSC. "Byddai unrhyw ymdrechion i wneud dulliau arolygu yn llai o straen yn derbyn croeso mawr."

Os oes angen cyngor arnoch wrth ymdrin ag arolygiadau ac fe hoffech sgwrsio gyda rhywun diduedd yna rhowch alwad i ni am gyngor cyfrinachol ar 0800 085 5088. Mae llinellau ar agor 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos.





 

SITE TOOLS