|
From the Teacher Support Network, www.teachersupport.info. CEFNOGWCH NIMae Teacher Support Cymru yn elusen gofrestredig. I barhau â’n gwaith hanfodol, rydym angen eich help. Rydym angen codi dros £100,000 dros y 12 mis nesaf er mwyn parhau i ddarparu ein gwasanaethau. Mae nifer o ffyrdd y gallwch helpu, gan gynnwys: Partneriaid corfforaethol; fyddech chi'n ystyried sefydlu partneriaeth o fudd cilyddol a fydd yn cyd-fynd â’ch amcanion CSR? Fyddech chi’n ystyried cyfleoedd noddi, marchnata yn gysylltiedig â’r achos, GAYE neu roddion mewn nwyddau? Os byddech chi, ffoniwch ni ar 01443 827 600. Cymynroddion Mae Cymynroddion yn ein helpu ni i dalu am 1 o bob 8 sesiwn cwnsela.Os ydych yn rhannu ein hymrwymiad i helpu athrawon, efallai yr hoffech ystyried cofio am Teacher Support Cymru yn eich ewyllys. Bydd eich cymynrodd, waeth pa mor fawr neu fach, yn helpu i sicrhau fod help ar gael pryd bynnag y bydd cydweithwyr a’u teuluoedd angen cyngor a chymorth. Gyda chymorth cyfreithiwr, mae ysgrifennu ewyllys neu greu cymynrodd newydd er mwyn cynnwys rhodd i Teacher Support Cymru, yn broses hawdd. Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â: Stephen White, Teacher Support Network, 40A Drayton Pak N5 1EW Gwirfoddoli Mae Teacher Support Cymru yn dibynnu ar wirfoddolwyr i helpu â’r gwaith o roi’r gair ar led am ein gwasanaethau, codi arian a’n helpu ni i ddatblygu gwasanaethau newydd. gwaith achos: asesu pobl yn eich ardal sydd wedi ceisio am grant neu fenthyciad gan Teacher Support Cymru. Am ragor o wybodaeth cliciwch yma. rhoi’r gair ar led: Dosbarthu deunydd hyrwyddo/gwybodaeth neu fynychu cynadleddau. Helpwch ni i ledaenu’r gair am ein gwasanaethau drwy gynnig copïau o’n ’posteri an taflenni i gydweithwyr. o 01443 827600. adborth: Gadewch i ni wybod beth rydych chi’n ei feddwl o’n gwaith a’n gwasanaethau drwy gymryd rhan mewn arolygon ar lein neu drwy fynychu grwpiau adborth rhanbarthol. Am ragor o wybodaeth, cliciwch yma. codi arian: hoffech chi drefnu digwyddiad i godi arian i Teacher Support Cymru? Ffoniwch 01443 827600 am ragor o wybodaeth. I gydnabod y ffaith bod Cymru yn fwy a mwy dwyieithog, am y tro cyntaf yn hanes Teacher Support Cymru, bydd gennym wefan a gwasanaeth ar-lein hollol ddwyieithog. Rydym yn gofyn am eich amynedd wrth i ni orffen y cyfieithiadau i gyd. Source information: Posted in: amdanom ni, Article page: http://teachersupport.info/cymru/amdanom-ni/CefnogwchNi.php Printable page: http://teachersupport.info/cymru/amdanom-ni/CefnogwchNi-printer.php Copyright ©2012 Teacher Support Network or credited source. Please share this page with your colleagues! |